Psalms 13

Gweddi am help

I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.

1Am faint mwy, Arglwydd?
Wyt ti'n mynd i'm diystyru i am byth?
Am faint mwy rwyt ti'n mynd i droi cefn arna i?
2Am faint mwy mae'n rhaid i mi boeni f'enaid,
a dal i ddioddef fel yma bob dydd?
Am faint mwy mae'r gelyn i gael y llaw uchaf?
3Edrych arna i!
Ateb fi, O Arglwydd, fy Nuw!
Adfywia fi,
rhag i mi suddo i gwsg marwolaeth;
4rhag i'r gelyn ddweud, “Dw i wedi ennill!”
ac i'r rhai sy'n fy nghasáu ddathlu wrth i mi syrthio.
5Ond na, dw i'n trystio dy fod ti'n ffyddlon!
Bydda i'n gorfoleddu am dy fod wedi f'achub i.
Bydda i'n canu mawl i ti, Arglwydd,
am achub fy ngham.
Copyright information for CYM